Soffestri’r Saeson YMEDDWLA’R DYCHYMYG CYMREIG Golygydd Cyffredinol John Rowlands Mae teitl y gyfres hon o astudiaethau beirniadol ar lenyddiaeth yn fwriadol eang ac annelwig, oherwydd gobeithir cynnwys ynddi ymdriniaethau amrywiol iawn â lluosogedd o bynciau a themâu. Bu tuedd hyd yn hyn i ysgolheigion a beirniaid ysgrifennu hanes llenyddiaeth, ac fe fydd sefydliadau megis y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a’r Academi Gymreig yn sicrhau bod y gweithgareddau sylfaenol hynny yn parhau. Ond daeth yn bryd hefyd inni drafod a dehongli’r themâu sy’n ymwau trwy’n llenyddiaeth, ac edrych yn fanylach ar y meddwl a’r dychymyg Cymreig ar waith. Wrth gwrs fe wnaed rhywfaint o hynny’n barod gan feirniaid mor wahanol â Saunders Lewis, Bobi Jones a Hywel Teifi Edwards, ond mae yna agweddau lu ar ein dychymyg llenyddol sydd naill ai heb eu cyffwrdd neu’n aeddfed i gael eu trafod o’r newydd. Yr astudiaeth hon o agweddau ar hanesyddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg yw’r wyththfed gyfrol y gyfres, yn dilyn DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (gol. M. Wynn Thomas, 1995), Tir Neb (Gerwyn Wiliams, 1996) a ddyfarnwyd yn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Celf- yddydau Cymru a Cerddi Alltudiaeth (Paul Birt, 1997), Yr Arwrgerdd Gymraeg (E. G. Millward, 1998), Pur fel y Dur (Jane Aaron, 1998) a enillodd wobr goffa Ellis Griffith, Sefyll yn y Bwlch (Grahame Davies, 1999) ac Y Sêr yn eu Graddau (gol. John Rowlands, 2000). Yn y gyfrol bresennol y mae Jerry Hunter yn craffu ar hanesyddiaeth a phroffwyd- oliaeth a’r cysylltiad rhyngddynt yng ngwaith Elis Gruffydd, ‘y milwr o Galais’. Gwelir ei gronicl ef fel ‘man cyfarfod gwahanol destunau, gwahanol draddodiadau a gwahanol leisiau awdur(dod)ol’. Bydd cyfrolau pellach yn y gyfres hon yn archwilio pynciau amrywiol megis Cymru ac America, y ddelwedd o Gymru yn y nofel Gymraeg ddiweddar, agweddau ar feirniadaeth a theori lenyddol yng Nghymru’r ugeinfed ganrif, y dychymyg hoyw mewn llenyddiaeth Gymraeg, yr awdur a’r darllenydd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif a merched yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. YMEDDWLA’RDYCHYMYGCYMREIG Soffestri’r Saeson Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid Jerry Hunter GWASGPRIFYSGOLCYMRU CAERDYDD 2000 © Jerry Hunter h 2000 Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 6 Stryd Gwennyth, Caerdydd CF24 4YD. Gwefan: www.cymru.ac.uk/gwasg ISBN 0-7083-1659-X Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig. Cyhoeddir gyda chymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru Datganwyd gan Jerry Hunter ei hawl foesol i gael ei gydnabod yn awdur y gwaith hwn yn unol â’r Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988. Llun y clawr: Pieter Bruegel, Christ Carrying the Cross(1564), trwy ganiatâd Kunsthistorisches Museum, Vienna Cysodwyd yng Ngwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd Argraffwyd yng Nghymru gan Wasg Dinefwr, Llandybïe i’r tair: Judith, Megan a Luned This page intentionally left blank Cynnwys Diolchiadau ix 1 DarllenArwyddionyrOesoedd: HanesyddiaethaPhroffwydoliaethyn OesHarriVIII 1 2 ‘Chroniclestherefore,Icanhighlycommende’: Cynrychioli’rGenedlSeisnig 28 3 DifyrrwchyBobl,Soffestri’rBoblSeisnig: JohnRastellacElisGruffydd 51 4 DeallDullyByd: TrosglwyddoBrutaBrud 78 5 ‘Arwyddioniddeallfodybrudyndyfod’: BrutaBrudyngNghroniclElisGruffydd 108 Mynegai 143 This page intentionally left blank Diolchiadau Carwn ddiolch yn gyntaf i’r Athro John Rowlands, golygydd y gyfres Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig, am ei gefnogaeth ddiflino. Mae rhan o’r gyfrol hon wedi’i seilio ar fy nhraethawd Ph.D. ac felly mae fy nyled yn fawr i’r Athro Patrick Ford am y cyfarwyddyd a’r gefnogaeth a gefais yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Harvard. Diolch hefyd i’r Athro Derek Pearsall am ei gymorth wrth fynd i’r afael â thraddodiad y cronicl Saesneg. Diolchaf i’r Dr Brynley Roberts am ei barodrwydd i drafod Elis Gruffydd ac am ddarllen y gyfrol hon a chynnig ei sylwadau. Bu fy nghyd-weithwyr yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn barod iawn eu cymorth; diolchiadau lu i’r Athro Sioned Davies, yr Athro Peter Wynn Thomas, y Dr E. Wyn James, yr Athro Colin Williams, Dylan Foster Evans a’r Dr Angharad Price. Bu Dr Ceridwen Lloyd-Morgan yn hael iawn wrth drafod Elis Gruffydd a’i lawysgrifau. Diolchaf yn ogystal i’r Athro Edgar Slotkin am y sgyrsiau a’r ysbrydoliaeth dros y blynyddoedd. Bu cynifer o gyfeillion mor gefnogol yn ystod y cyfnod y bûm yn ysgrifennu’r gyfrol hon: rhaid imi enwi’r Dr Richard Wyn Jones yn enwedig am ei anogaeth a’i barodrwydd i wrando. Diolchaf hefyd i swyddogion Gwasg Prifysgol Cymru am eu gwaith ac yn arbennig i Llion Pryderi Roberts am ei ofal wrth lywio’r gyfrol drwy’r wasg. Ac yn bennaf diolchaf i Judith fy ngwraig am bopeth. JERRYHUNTER ix