ebook img

Cwrs Proffesiynol. Rhan Un PDF

94 Pages·0.919 MB·Wallisian
Save to my drive
Quick download
Download
Most books are stored in the elastic cloud where traffic is expensive. For this reason, we have a limit on daily download.

Preview Cwrs Proffesiynol. Rhan Un

Rhan Un Cwrs Gloywi Iaith at Ddibenion Gwaith a Busnes gyda chefnogaeth ar lein: http://canolbarth.ybont.org www.dysgucymraegynycanolbarth.org http://canolbarth.ybont.org/ Rhagair Lluniwyd Cymraeg Proffesiynol – Rhan Un i helpu siaradwyr Cymraeg, a dysgwyr profiadol, i wella eu sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu yn yr iaith fel y gallant drafod pynciau cymhleth mewn sefyllfaoedd busnes a phroffesiynol yn y Gymraeg. Yn y cwrs hwn, rhoir sylw arbennig i ramadeg y Gymraeg, sgiliau cyfieithu a chyfansoddi dogfennau a llythyrau yn ymwneud â byd busnes. Ar yr un pryd, nid anghofir sgiliau darllen, deall a thrafod. Gwneir hyn trwy gyfuniad o hyfforddiant manwl, trafod pwrpasol yn y dosbarth a hunanastudio tu allan i oriau’r dosbarth. Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn credydau, rhaid gwneud yr aseiniadau sy’n gysylltiedig â’r cwrs a’u pasio. Phylip Brake 2014 Cymorth Ar-lein Gellir cyrchu adnoddau dysgu ar-lein sy’n cyd-fynd â’r cwrslyfr hwn ar Y Bont Fach, sef platfform e-ddysgu Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru (canolbarth.ybont.org) a dilyn y briwsion Hafan  Cyrsiau  Hyfedredd (tinyurl.com/hyfedredd). 2 Cwrs Cymraeg Proffesiynol Cynnwys Cynnwys t. 4 Byrfoddau t. 5 Termau gramadegol a ddefnyddir yn y cwrs t. 6 Uned 1 t. 11 Confensiynau sillafu; ysgrifennu llythyr o werthfawrogiad Uned 2 t. 20 Morffoleg y Gymraeg: blociau adeiladu’r iaith; ysgrifennu llythyr yn mynegi diddordeb Uned 3 t. 32 Morffoffonoleg y Gymraeg: y treigladau; ysgrifennu llythyr o gyflwyniad Uned 4 t. 42 Adolygu cyffredinol Uned 5 t. 47 Rheolau’r Cymal Perthynol; llunio llythyr busnes Uned 6 t. 53 Y Cymal Enwol; ysgrifennu cofnodion Uned 7 t. 59 Adolygu cyffredinol Uned 8 t. 64 ‘Blwyddyn’, ‘blynedd’ a blwydd’; newid cywair Uned 9 t. 69 Rhifolion a threfnolion; prawfddarllen Uned 10 t. 79 Y ferf reolaidd: y defnydd cywir o ffurfiau cryno berfau mewn adroddiadau swyddogol; ysgrifennu llythyr o ddiolch am gefnogaeth Uned 11 t. 87 Adolygu cyffredinol 3 Byrfoddau amher. amherffaith amhers. amhersonol ben. benywaidd d. deusain dyf. dyfodol e.e. er enghraifft a.y.b. ac yn y blaen h.y. hynny yw godd. goddrych gor. gorberffaith gorch. gorchmynnol gorff. gorffennol gwr. gwrywaidd ll. llafariad llu. lluosog pers. person pres. presennol rh. rhagenw TLl Treiglad Llaes TM Treiglad Meddal TT Treiglad Trwynol un. unigol 4 Termau gramadegol sy’n cael eu defnyddio yn y cwrs yma: acen marc diacritig uwchben llafariad i nodi rhyw wahaniaeth yn ei ansawdd, fel yr ^ uwchben yr ‘a’ yn tân i wahaniaethu rhyngddo a’r gair tan. a. bwys lle rhoir pwyslais wrth ynganu gair, e.e. mae’r acen yn cwympo ar y goben (sillaf olaf ond un) yn y geiriau tristwch a caneuon ond ar y sillaf olaf yn sicrhau a parhad. a. ddisgynedig marc diacritig, a ddefnyddir mewn geiriau unsill, i ddangos bod y llafariad yn fyr, e.e. sgìl, clòs. a. ddyrchafedig marc diacritig, a ddefnyddir yn sillaf olaf geiriau lluosill, i ddangos pwyslais, e.e. casáu, tristáu, caniatáu. a. grom marc diacritig, a ddefnyddir mewn geiriau unsill, i ddangos bod llafariad yn hir, e.e. tân, côr, gêm, ac weithiau yn y sillaf olaf i ddangos pwyslais, e.e. dramâu. adferf mewn brawddeg, gair neu ymadrodd sy’n rhoi gwybodaeth ychwanegol am sut neu lle mae’r weithred yn digwydd, fel yn dda a ddoe yn y frawddeg: Dysgodd y plant Gymraeg yn dda ddoe. affeithiad llafariad ar ddiwedd gair yn achosi’r llafariad o’i blaen i newid, e.e. y terfyniad lluosog -i yn troi a yn e yn y pâr: gardd, gerddi. agwedd fel amser, yn dangos pryd y mae’r hyn a ddisgrifir yn digwydd o safbwynt y siaradwr, ond yn fwy manwl. amherffaith amser yn y modd mynegol sy’n dynodi gweithred yn y gorffennol oedd heb ei chwblhau, neu stad barhaol yn y gorffennol oedd heb ddod i ben, adeg y cyfeirir ati, e.e. Roedd y côr yn canu’n dda neithiwr; Roedd y canwr yn ddall. amhosibilrwydd set o ffurfiau berfol / terfyniadau yn y modd dibynnol sy’n dynodi rhywbeth sy’n amhosib ei wneud, e.e. Hoffwn i fod wedi bod ar fwrdd Apollo 8. amser yn dangos pryd y mae’r hyn a ddisgrifir yn digwydd o safbwynt y siaradwr. ansoddair gair sy’n disgrifio gair arall. e.e. canwr da; hoff dôn. ans. cyfartal ffurf gymharol ansoddair sy’n dweud fod rhywbeth mor dda, mor fawr, a.y.b., â rhywbeth arall, e.e. Mae rhosyn cyn hardded â chenhinen Bedr. ans. cymharol ffurf gymharol ansoddair sy’n dweud bod rhywbeth yn well, yn fwy, a.y.b., na rhywbeth arall, e.e. Mae’r Wyddfa’n uwch na Chader Idris. ans. eithaf ffurf gymharol ansoddair sy’n dweud ei fod yn well, yn fwy, a.y.b., na phob peth tebyg arall, e.e. y blodyn harddaf. arwyddocaol yn dynodi’r gwahaniaeth rhwng dwy sain sy’n gwahaniaethu ystyr, fel yr ‘t’ a’r ‘m’ yn tân a mân. bannod Yn Saesneg: ‘the’. Mae yna dair ffurf ar y fannod yn Gymraeg, sef y (o flaen cytsain), yr (o flaen llafariad) a’r (ar ôl llafariad). b. amhenodol yn Saesneg, a neu an. Nid yw’n digwydd yn Gymraeg. benywaidd yn dynodi pobl, ac anifeiliaid, benyw, fel merch, gwraig, caseg, buwch, a.y.b., a phethau difywyd a syniadau a ystyrir eu bod yn fenywaidd, fel cadair, ffon, dealltwriaeth, a.y.b. berf gair sy’n dynodi gweithred, fel codaf, bwytaist, âi hi, a.y.b. berfenw y ffurf ar ferf sy’n cael ei defnyddio fel enw, fel codi, bwyta, mynd, a.y.b. 5 bôn y rhan o air yr ychwanegir terfyniad ati, e.e. cod- (bôn) + -ais (terfyniad berfol) > codais brawddeg uned o lafar sy’n cynnwys o leiaf ferf a goddrych, fel canais; mae’r ferch yn canu, ond sydd hefyd yn gallu cynnwys gwrthrych a / neu adferf, canasoch y gân (gwrthrych) yn dda (adferf). b. enwol brawddeg lle mae’r traethiad yn enw neu’n ansoddair, e.e. Hir pob aros. Gellir cysylltydd berfol rhwng y traethiad a’r goddrych: Hir yw pob aros. Mae’n bosibl ei haralleirio fel: Mae pob aros yn hir. cenedl yn dynodi a yw enw yn wrywaidd neu’n fenywaidd. collnod dyfynnod sengl sy’n dynodi bod llythyren yn eisiau, e.e. yr y yn mae’r ... yn lle mae yr... cydweddiad cydymffurfio seinegol, fel yr ‘ew’ y ffurfiau llafar: ewn ni; ewch chi; ewn nhw; yn lle ‘aw’, ‘ew’ ac ‘â’ y ffurfiau mwy llenyddol: awn (ni); ewch (chi); ânt (hwy). cyfansoddair gair sy’n gyfuniad o ddau, neu ragor, o eiriau, e.e. oergell < oer + cell. c. afrywiog cyfansoddair lle mae’r elfen gyntaf yn penderfynu’r genedl, e.e. pontbren (benywaidd) < pont (benywaidd) + pren (gwrywaidd). c. rhywiog cyfansoddair lle mae’r elfen olaf yn penderfynu’r genedl, e.e. ffermdy (gwrywaidd) < fferm (benywiadd) + tŷ (gwrywaidd). cyfarchol y cyflwr o gyfarch rhywun neu rywrai, e.e. Helo bobol! cymal uned o lafar sy’n llai na brawddeg ond yn fwy nag ymadrodd c. enwol cymal sy’n dechrau â ‘bod’ (yn yr amser presennol), e.e. mae’n debyg bod hynny’n wir. c. perthynol cymal sy’n perthyn i’r hyn sy’n ei ragflaenu, fel oedd yn y dosbarth yn: Siaradais â’r bobl oedd yn y dosbarth. Yma, y bobl yw’r rhagflaenydd. c. p. union cymal perthynol a ragflaenir gan y geiryn perthynol union ‘a’. c. p. anunion cymal perthynol a ragflaenir gan y geiryn perthynol anunion ‘y’. cysylltair gair sy’n cysylltu dau air, neu ymadrodd, arall fel a, gyda, ond, e.e. ceffyl a chert; byddwn i’n mynd ond dw i’n brysur. cysylltydd ffurf ferfol sy’n cysylltu’r traethiad a’r goddrych, fel yr yw yn: Athro yw Alun. cytsain sain sy’n cael ei chynhyrchu drwy rwystro llif y llafar, e.e. ‘p’, ‘b’, ‘ch’, ‘ll’, ‘r’, a.y.b. deusain sillaf ac ynddi ddwy lafariad, fel yn y geiriau, e.e. twym, llaeth, cyw. d. ddisgynedig deusain lle mae’r llafariad gyntaf yn dwyn yr acen, e.e. swydd, poen, sain. d. ddyrchafedig deusain lle mae’r ail lafariad yn dwyn yr acen, e.e. gwynt, iâr, iet. dibynnol modd sy’n mynegi dymuniad, amheuaeth, posibiliad neu afrealiti, e.e. da boch; chredech chi byth; petawn yn dy le di. didolnod marc diacritig sy’n dangos fod llafariad yn sillafog. Yn ogystal, mae’n digwydd uwchben sillaf emphatig, e.e. storïau, deëllais, tröedigaeth. dyfodol amser yn y modd mynegol sy’n dynodi gweithred nad yw wedi digwydd eto o safbwynt y siaradwr, e.e. Gwela i chi yfory; Cawn ni amser da; Bydd y tywydd yn sych. 6 dymuniad y weithred o ddymuno rhywbeth. ebychiad ymadrodd y mynegir syndod ynddi, e.e. ’Na dwp yw’r athro! enw gair sy’n dynodi peth, syniad, person neu le, e.e. cadair, dealltwriaeth, Marc, Y Fenni. e. torfol enw sy’n dynodi grŵp o bobl neu bethau, e.e. cymanfa, torf, praidd. ffonoleg yr astudiaeth o seiniau hynny sy’n arwyddocaol mewn iaith, e.e. yn y Gymraeg, mae ‘p’ a ‘b’ yn seiniau arwyddocaol (ffonemau) gan eu bod yn gwahaniaethu ystyr: ‘map’ v. ‘mab’. gair yr uned ystyrlon leiaf mewn iaith (o safbwynt siaradwr cyffredin yr iaith o leiaf); mae’n cael ei hysgrifennu ar wahân i eiriau eraill, e.e. tad, cath, mynd, dan, fe, nhw, a, cymdeithaseg. geiryn gair sy’n ddiystyr ar ei ben ei hun, fel yr ‘a’ yn y cymal, y dyn a gwympodd. g. perthynol geiryn sy’n cysylltu’r rhagflaenydd â gweddill y cymal perthynol, fel yr ‘a’ yn, y tîm a enillodd. g. p. anunion ‘y’, sef y geiryn sy’n cysylltu’r rhagflaenydd â gweddill y cymal perthynol pan nad oes perthynas uniongyrchol rhwng y rhagflaenydd â’r ferf sy’n dilyn, e.e. y rhieni y priododd eu merch. Nid y rhieni sy’n priodi ond eu merch. g. p. union ‘a’ (+ TM) sef y geiryn sy’n cysylltu’r rhagflaenydd â gweddill y cymal perthynol pan fo’r rhagflaenydd yn oddrych y cymal, e.e. y ferch a briododd, neu’n wrthrych y cymal, e.e. y ferch a briodais. genidol y gystrawen sy’n dynodi meddiant, e.e. car Siôn, fy nghap, a.y.b. goben y sillaf olaf ond un, fel -byd- yn cerbydau. goddefol y stad o gael rhywbeth wedi ei wneud i chi. Yn Gymraeg mae’r gystrawen ‘ma yn cynnwys y ferf ‘cael’ + berfenw, e.e. Cefais fy ngeni yn Ne Cymru. goddrych mewn brawddeg, y peth sy’n gwneud rhywbeth, fel y plant yn y frawddeg: Dysgodd y plant Gymraeg. goleddfydd gair sy’n goleddfu (modify) gair arall, fel er enghraifft, rhy yn rhy galed. gorberffaith amser yn y modd mynegol sy’n dynodi gweithred yn y gorffennol oedd wedi ei chwblhau, neu stad barhaol oedd wedi dod i ben, adeg y cyfeirir ati, e.e. Roedd y gêm wedi gorffen; Roedd y ferch wedi bod yn ddall. gorchymyn dweud wrth rywun am wneud rhywbeth. gorffennol amser yn y modd mynegol sy’n dynodi gweithred sydd wedi ei chwblhau o safbwynt y siaradwr, e.e. Canais; Cafodd ef amser da; Buom yn y dre ddoe. gosodiad brawddeg sy’n cyfleu gwybodaeth, e.e. Mae’r dosbarth yn llawn; Ni ddaeth Jim i’r dosbarth neithiwr. gwyriad llafariad gair unsill yn cael ei newid drwy ychwanegu sillaf arall: gwaith, gweithio. gwrthrych mewn brawddeg, y peth y dylanwedir arno gan y goddrych, fel Cymraeg yn y frawddeg: Dysgodd y plant Gymraeg. gwrywaidd yn dynodi pobl, ac anifeiliaid, gwryw, fel dyn, gŵr, march, tarw, a.y.b., a phethau difywyd a syniadau sy’n cael eu hystyried yn wrywaidd, fel bwrdd, tŷ, gwirionedd, a.y.b. h-acennog yn ymwneud â phwyslais, fel yr ‘h’ yn glanhau; cyrhaeddais. a.y.b. 7 llafariad sain leisiol sy’n cael ei chynhyrchu heb gyfyngu ar lif y llafar; mae ei hansawdd yn dibynnu ar safle’r tafod yn y geg ynghyd â safle’r gwefusau, e.e. ‘a’, ‘e’, ‘i’, ‘w’ ‘y’. ll. fer fel yr ‘a’ yn y gair man, yr ‘e’ yn het, a.y.b. ll. hir fel yr ‘a’ yn y gair bach, yr ‘e’ yn gêm, a.y.b. lluosill yn cynnwys mwy nag un sillaf. lluosog ffurf ar enw, neu ferf, sy’n dynodi mwy nag un peth, e.e. dynion, traed, moch, etc; canasom, canasoch, canasant, a.y.b. lluosogol rhif sy’n dynodi sawl gwaith y mae rhywbeth yn digwydd, e.e. unwaith, dwywaith. llythyren symbol graffig sy’n cynrychioli un sain arwyddocaol a wneir wrth siarad, fel ‘a’, ‘b’, ‘c’, a.y.b. modd dosbarthiad berfol yn ôl ystyr yr hyn sy’n cael ei gyfleu, e.e. mae brawddeg fel: ’R wy’n hoffi mynd i Lydaw yn perthyn i’r modd mynegol oherwydd ei bod hi’n gwneud gosodiad syml, ond mae: Hoffwn fynd i Lydaw yn perthyn i’r modd dibynnol gan ei bod hi’n cyfleu dymuniad. morffolegol yn ymwneud â sut y mae geiriau yn cael eu rhoi at ei gilydd, e.e. mae ffermwr yn cynnwys fferm + y terfyniad gwrywaidd -wr; morffemau y gelwir elfennau o’r fath. morffoffonoleg yr astudiaeth o sut y mae morffemau, a geiriau, yn effeithio ffonemau ei gilydd. Yn y Gymraeg, treiglo y gelwir y broses hon, e.e. ‘p’ > ‘b’ ar ôl yr arddodiad ‘ar’: ‘ar ben y mynydd’. mynegol modd sy’n cyfleu gosodiad syml, fel: Rwy’n dysgu Cymraeg; Dysgais Gymraeg, a.y.b. perffaith agwedd o’r amser presennol sy’n dynodi gweithred sydd wedi ei chwblhau, e.e. Mae’r gêm wedi gorffen; mae’r ystyr yn debyg iawn i’r amser gorffennol, yn enwedig yn yr iaith lenyddol. posibiliad set o ffurfiau berfol / terfyniadau yn y modd dibynnol sy’n dynodi rhywbeth sy’n bosib – waeth pa mor annhebygol - ei wneud, e.e. Hoffwn fynd i’r lleuad. presennol amser yn y modd mynegol sy’n dynodi gweithred sy’n digwydd nawr, e.e. Rwy’n dysgu Cymraeg; Mae’r dosbarth yn canu. priod-ddull ffordd arbennig o fynegi syniad cyffredin, e.e. Mae’n gas gennyf ganu gwlad yn lle Rwy’n casáu canu gwlad. sillaf rhan o air sy’n cynnwys un sain lafarog, e.e. mae geiriau fel dyn, tân a mân yn cynnwys un sillaf yr un, ond mae dynion, tanau a mannau yn cynnwys dwy sillaf yr un. rhagacen acen sy’n cwympo ar sillaf gyntaf geiriau sy’n cynnwys mwy na thair sillaf fel annibyniaeth, rhagdybiaeth, a.y.b. rhagenw gair sy’n cymryd lle enw, e.e. fi, hwn, hynny. rh. blaen rhagenw sy’n cyfateb i ‘my’, ‘your’, ‘his’, a.y.b. yn Saesneg. rhagddodiad gair a roir ar ddechrau gair arall newid yr ystyr mewn rhyw ffordd, fel cyd- yn cydbwyso. rhagflaenydd yr hyn sy’n rhagflaenu cymal perthynol, e.e. y tîm yn y tîm a enillodd. rhan ymadrodd un o rannau sylfaenol brawddeg, e.e. berf, enw, rhagenw, adferf. rhif yn dynodi nifer, sef unigol: dyn, troed, mochyn, a.y.b., a lluosog: dynion, traed, moch, a.y.b. rhifol ansoddair sy’n dynodi maint, e.e. un dyn, tair merch, a.y.b. taflod to’r geg. 8 tafodiaith y math o iaith a siaredir mewn ardal arbennig neu gan ddosbarth arbennig o bobl. terfyniad rhywbeth sy’n cael ei ychwanegu at fôn gair i ddynodi amser a pherson (yn achos berfau) a rhif (yn achos enwau), e.e. cod- (bôn) + ais i (terfyniad berfol: 1 person gorffennol). torymadrodd gair neu eiriau sy’n torri ar draws llif y frawddeg, e.e. yn aml yn y frawddeg: Dywedir yn aml fod Bryn Terfel yn ganwr da yn lle Dywedir bod B. T. yn ganwr da yn aml. traethiad gweddill y frawddeg heblaw’r goddrych. trefnol rhif sy’n rhoi’r peth y mae’n ei ddisgrifio yn nhrefn amser neu le, e.e. y wobr gyntaf, yr ail ganrif ar bymtheg, a.y.b. treiglad cyfnewid cytsain ar ddechrau gair dan amgylchiadau arbennig, e.e. ‘c’ > ‘g’ ar ôl yr arddodiad ‘o’: Rwy’n dod o Gymru (< Cymru). tr. llaes ‘p’, ‘t’, ‘c’ > ‘ph’, ‘th’, ‘ch’ tr. meddal ‘p’, ‘t’, ‘c’, ‘b’, ‘d’, ‘g’, ‘m’, ‘ll’, ‘rh’ > ‘b’, ‘d’, ‘g’, ‘f’, ‘dd’, - , ‘f’, ‘l’, ‘r’. tr. trwynol ‘p’, ‘t’, ‘c’, ‘b’, ‘d’, ‘g’ > ‘mh’, ‘nh’, ‘ngh’ > ‘m’, ‘n’, ‘ng’. unigol ffurf ar enw, neu ferf, sy’n dynodi un peth, e.e. dyn, troed, mochyn, &c; canais i, canaist ti; canodd e/hi, a.y.b. unsill yn cynnwys un sillaf yn unig. ymadrodd uned o lafar sy’n cynnwys mwy nag un gair, e.e. yn y tŷ, yn y bore, a.y.b., ond heb ferf fel rheol. y. adferfol ymadrodd sy’n gweithredu fel adferf, hynny yw, mae’n rhoi gwybodaeth ychwanegol am sut neu lle mae’r weithred yn digwydd, fel ar y to, yn y frawddeg, mae’r bêl ar y to. y. dangosol ymadrodd sy’n cyfateb i ‘this ...’, ‘that ...’, ‘these ...’ neu ‘those ...’ yn Saesneg, e.e. y car hwn, y car hwnnw, y ceir hynny. 9 Cymraeg Proffesiynol Uned 1 Orgraff – Confensiynau Sillafu Adran Gramadeg Yr Wyddor Gymraeg Mae yna 29 llythyren yn yr wyddor Gymraeg: a, b, c, ch, d, dd, e, f, ff, g, ng, h, i, j, l, ll, m, n, o, p, ph, r, rh, s, t, th, u, w, y Ynganu’r Wyddor Gymraeg A (a) B (bi) C (èc) CH (èch) D (di) DD (èdd) E (e) F (èf) FF (èff) G (èg) NG (èng) H (aitsh) I (i-dot) J (je) L (èl) LL (èll) M (èm) N (èn) O (o) P (pi) PH (ffi) R (èr) RH (rhi) S (ès) T (ti) TH (èth) U (i-bedol) W (ŵ) Y (fel ‘her’ Saesneg heb yr h na’r r) Acenion Mae yna bedair acen yn Gymraeg sy’n dylanwadu ar ansawdd y llafariaid sy’n eu dwyn: a) Yr acen ddyrchafedig (´) sy’n digwydd uwchben ‘a’ b) Yr acen ddisgynedig (`), sy’n digwydd uwchben ‘i’ ac ‘o’ c) Gall yr acen grom (^) ddigwydd uwchben unrhyw lafariad, i ddangos ei bod hi’n hir. ch) Y didolnod (¨) a ddefnyddir i ddangos bod llafariad yn cael ei hynganu ar wahân, yn hytrach na ffurfio deusain â’r llafariad ddrws nesaf iddi; nid yw ansawdd y llafariad ei hunan yn newid. Mae’r didolnod yn cael ei ddefnyddio yn enwedig ag ‘i’, e.e. sïon //; storïau //. Llafariaid Sain leisiol yw llafariad sy’n cael ei chynhyrchu heb gyfyngu ar lif y llafar, sef ‘a’, ‘e’, ‘i’, ‘o’, ‘u’, ‘w’, ‘y’. Mae ansawdd llafariad yn dibynnu ar safle’r tafod yn y geg ynghyd â safle’r gwefusau. Gall llafariad Gymraeg fod yn hir neu’n fyr. Mae’r llafariad yn hir mewn geiriau unsill sy’n gorffen â: b, ch, d, dd, g, f, ff, s, th Ac, felly, does dim eisiau rhoi acen grom arni: pob, coch, rhad, gradd, cig, twf, saff, cas, peth 10

See more

The list of books you might like

Most books are stored in the elastic cloud where traffic is expensive. For this reason, we have a limit on daily download.